Godfrey Huggins | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1883 Bexley |
Bu farw | 8 Mai 1971 Harare |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg yn y fyddin, gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | United Federal Party |
Tad | Godfrey Huggins |
Mam | Emily Blest |
Priod | Blanche Elizabeth Slatter |
Plant | John Godfrey Huggins, 2nd Viscount Malvern of Rhodesia and Bexley, Martin James Huggins |
Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr |
Gwleidydd oedd Godfrey Martin Huggins, Is-iarll 1af Malvern o Rodesia ac o Bexley (6 Gorffennaf 1883 – 8 Mai 1971) a fu'n Brif Weinidog De Rhodesia o 1933 i 1953 ac yn Brif Weinidog Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa o 1953 i 1956.
Ganed yn Bexley, Caint. Gweithiodd yn feddyg yn Llundain cyn iddo ymfudo ym 1911 i Salisbury yn neheubarth Rhodesia (bellach Harare, Simbabwe), pan oedd y diriogaeth honno dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Gweithiodd yn llawfeddyg yn Salisbury, a phan ddaeth De Rhodesia yn wladfa hunanlywodraethol ym 1923 fe'i etholwyd yn aelod o'r Cyngor Deddfwriaethol.[1]
Dan ei arweiniad, enillodd y Blaid Ddiwygio fwyafrif cymharol o seddi'r Cynulliad yn etholiad 1933, a phenodwyd Huggins felly yn Brif Weinidog De Rhodesia. Bu hefyd yn dal swydd ysgrifennydd dros faterion brodorol hyd at 1949. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1941, a fe'i elwir yn Syr Godfrey Huggins nes iddo dderbyn ei is-iarllaeth ym 1955.
Huggins oedd y prif arweinydd yn yr ymgyrch i gyfuno gwladfa De Rhodesia â phrotectoriaethau Gogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa, ac yn sgil ffurfio Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa ym 1953 enillodd ei Blaid Ffederal yr etholiad a fe'i penodwyd yn brif weinidog. Fe'i olynwyd yn brif weinidog y ffederasiwn gan Syr Roy Welensky ym 1956.
Bu farw yr Arglwydd Malvern yn Salisbury yn 87 oed.[1]